GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION

 

Hydref 2025

 

 

YMWELIADAU Â CHYMRU

 

15 Hydref

 

 

 

 

 

23 Hydref

 

 

 

Ymweliad â Chymru gan Uchel Gomisiynydd Malta

Ymwelodd yr Uchel Gomisiynydd â Chymru ar gyfer digwyddiadau yn Abertawe a Chaerdydd. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Uchel Gomisiynydd â'r Dirprwy Brif Weinidog i gyflwyno'r Conswl Anrhydeddus newydd ac i drafod y berthynas gynyddol rhwng Malta a Chymru.

 

Ymweliad â Chymru gan Lywodraeth Oman

Ymwelodd Llysgennad Swltaniaeth Oman a dirprwyaeth o swyddogion y llywodraeth â Chymru i archwilio strategaethau'r DU, gwersi a ddysgwyd, a chyfleoedd posibl ar gyfer cydweithio. Yn ystod eu hymweliad, manteisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar y cyfle i groesawu'r ddirprwyaeth ac i ddangos cyfleoedd yng Nghymru, gan gynnwys bod gennym lywodraeth ar wahân.

 

YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL

 

02 Hydref

 

 

 

 

 

 

 

 

 

14 Hydref

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio - Cyfarfodydd yn Llundain

Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet i Lundain ar gyfer cyfarfod gyda Llysgennad yr Emiradau Arabaidd Unedig yn y DU a Llysgennad Qatar. Trafodwyd Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru a chyfleoedd yng Nghymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Tra roedd yn Llundain manteisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y cyfle i gwrdd â Llysgennad newydd yr Almaen yn y DU. Trafodwyd cydweithredu economaidd, gan gynnwys Ynni Gwyrdd, a chydweithredu â Baden-Württemberg.

 

Ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio â Brwsel

Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet i Frwsel ar gyfer Uwchgynhadledd Gweinidogion y Gynghrair Technoleg Darfol a Datblygol (DETA) i godi proffil rhyngwladol Cymru ac i fynychu digwyddiadau i hyrwyddo Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru.